Cronfa Datblygu Athrawon
Mae gennym ddwy gronfa sy’n canolbwyntio ar addysg yn y celfyddydau. Os nad yw’r Gronfa Datblygu Athrawon yn addas ar eich cyfer chi, efallai y bydd ein Cronfa Dysgu Seiliedig ar y Celfyddydau yn gweddu’n well i chi.

Rydym yn cefnogi athrawon i ddatblygu dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau sy’n creu ystafelloedd dosbarth teg lle mae pob plentyn yn dysgu ac yn ffynnu.
Nod y gronfa
Rydym yn rhagweld system ysgolion decach lle mae dysgu o safon uchel yn seiliedig ar y celfyddydau yn rhan greiddiol o addysg pob plentyn. Credwn y gall addysgu a dysgu seiliedig ar y celfyddydau ychwanegu gwerth a helpu ysgolion i gyflawni eu dyheadau ar gyfer disgyblion. Mae’r gronfa hon yn cyflawni hyn drwy:
- canolbwyntio ar ddisgyblion sy’n profi annhegwch systemig a’u galluogi i gael mynediad i’w dysgu a gwneud cynnydd ynddo;
- cefnogi sefydliadau celfyddydol ac ysgolion sy’n gweithio mewn partneriaethau cyfartal i gyfnewid a chyfoethogi eu harbenigedd;
- cydnabod bod athrawon yn hollbwysig i ddeilliannau disgyblion;
- creu dysgu proffesiynol ysbrydoledig o ansawdd uchel i athrawon;
- galluogi athrawon ac ymarferwyr artistig i ddysgu a chydweithio yn yr ystafell ddosbarth;
- adeiladu corff o dystiolaeth ac ymarfer a deall sut mae’r gwaith yn gwella tegwch i ddisgyblion; a
- creu newidiadau cynaliadwy mewn dysgu ac addysgu mewn ysgolion ar gyfer y tymor hir.
Pwy rydym eisiau eu cefnogi
Gall naill ai ysgol gynradd neu sefydliad celfyddydol/diwylliannol fod yn brif ymgeisydd.
- Rhaid i bob cais fod â phartneriaethau cadarn yn eu lle
- Rhaid i bob partneriaeth gynnwys un neu fwy o sefydliadau celfyddydol/diwylliannol
- Dylai o leiaf chwech ac uchafswm o ddeg ysgol fod yn rhan o bob prosiect, ni waeth a yw’r prif ymgeisydd yn sefydliad celfyddydol/diwylliannol neu’n ysgol.
- Dylai pob ysgol sy’n cymryd rhan ymrwymo o leiaf dau athro ac un uwch arweinydd i’r prosiect, er y gellir cynnig hyblygrwydd i ysgolion bach, gwledig
- Gall sefydliadau celfyddydol fod yn elusennau, yn sefydliadau cymunedol, yn fentrau cymdeithasol ac yn gwmnïau dielw sy’n weithgar yn sector y celfyddydau a diwylliant
- Gall ysgolion sy’n cymryd rhan fod yn lleoliadau prif ffrwd, AAAA neu Ddarpariaeth Amgen, gan weithio gyda phlant oed cynradd
- Gall prosiectau gynnwys athrawon dosbarthiadau Meithrin a Derbyn mewn ysgolion cynradd
- Rhaid i bob ysgol fod yn gweithredu yn sector y wladwriaeth.
Cwestiynau Cyffredin
I gael arweiniad pellach ar bwy sy’n gymwys ar gyfer y gronfa hon, gweler ein Cwestiynau Cyffredin manwl.

Yr hyn y byddwch yn gweithio arno
Yr hyn sy’n gwneud partneriaeth effeithiol
Drwy ein dysgu hyd yn hyn, rydym wedi nodi’r nodweddion canlynol o ymarfer a phartneriaeth effeithiol:
Yr hyn sydd gan uwch arweinwyr i’w ddweud
Mae’r ffilm hon yn archwilio’r Gronfa Datblygu Athrawon o safbwynt penaethiaid ac uwch arweinwyr ac yn dangos sut olwg sydd ar y rhaglen ar waith.
Yn cynnwys penaethiaid ac aelodau o’n panel cynghori, mae’r ffilm yn amlygu sut mae’r gronfa yn helpu i greu ystafelloedd dosbarth mwy teg, cefnogi dysgu proffesiynol athrawon a meithrin partneriaethau effeithiol rhwng ysgolion a sefydliadau celfyddydol.
In this section
Proses ymgeisio
Mae gan y Gronfa Datblygu Athrawon broses ymgeisio dau gam. Mae gan y Gronfa un dyddiad cau y flwyddyn.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2024 bellach wedi mynd heibio. Os hoffech ymuno â’r rhestr bostio ar gyfer rownd nesaf TDF, sy’n agor yn 2025, e‑bostiwch ela@phf.org.uk i gofrestru eich diddordeb.
Help gyda cheisiadau
Bwrsariaeth cymorth hygyrchedd
Os yw’r broses ymgeisio hon yn anhygyrch i chi ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni. Gallwn ddarparu cymorth hygyrchedd cyn ymgeisio a bwrsariaeth o hyd at £750 i’ch helpu i wneud cais.

Rydym yn defnyddio ffurflen gais ar-lein.
Gellir lawrlwytho sampl o ffurflen gais fel dogfen Word, sydd hefyd ar gael mewn print bras, i chi ei hadolygu ymlaen llaw.
Hyb adnoddau
Mae’r hyb adnoddau yn dod â chynnwys o rai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi a’r tîm PHF ynghyd. Gallwch wylio fideos i weld y Gronfa Datblygu Athrawon ar waith. Fe welwch flogiau gan athrawon ac arweinwyr ysgol, ynghyd ag adnoddau i’ch helpu i wneud cais ac i greu ystafell ddosbarth decach.