English Cymraeg

Cronfa Dysgu Seiliedig ar y Celfyddydau

Mae gennym ddwy gronfa sy’n canolbwyntio ar addysg yn y celfyddydau. Os nad yw Dysgu Seiliedig ar y Celfyddydau yn addas ar eich cyfer chi, efallai y bydd ein Cronfa Datblygu Athrawon yn gweddu’n well i chi.

Amount: £30,000 to £300,000; up to £100,000 per year 
Deadline: Rolling application cycle 
Duration: 1 to 4 years 
Five primary school children are facing the front of the classroom. Two young boys are in focus, smiling and playing a game
Creative Classrooms by darts. Credyd llun: James Mulkeen Photo credit: James Mulkeen

Rydym yn cefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a gwneud dysgu seiliedig ar y celfyddydau yn rhan graidd o addysg.

Nod y gronfa

Rydym yn rhagweld system ysgolion decach lle mae dysgu o safon uchel yn seiliedig ar y celfyddydau yn rhan greiddiol o addysg pob plentyn. Credwn y gall addysgu a dysgu seiliedig ar y celfyddydau ychwanegu gwerth a helpu ysgolion i gyflawni eu dyheadau ar gyfer disgyblion. Mae’r gronfa hon yn cyflawni hyn drwy:

  • cefnogi sefydliadau celfyddydol i weithio mewn partneriaeth â lleoliadau addysg ffurfiol gan arwain at gyfnewid cilyddol a chyfoethogi arbenigedd;
  • canolbwyntio ar ddisgyblion sy’n profi annhegwch systemig a’u galluogi i wneud cynnydd a goresgyn rhwystrau i ddysgu;
  • archwilio rôl dysgu seiliedig ar y celfyddydau wrth fynd i’r afael â materion cynhwysiant, yn enwedig hiliaeth, mewn addysg;
  • creu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn seiliedig ar y celfyddydau mewn lleoliadau addysg, yn enwedig yn y rhai nad ydynt wedi cael y gwaith hwn yn y gorffennol;
  • galluogi dysgu seiliedig ar y celfyddydau i gael ei ymgorffori mewn cwricwla ac ymarfer ar gyfer y tymor hir; ac
  • adeiladu corff o dystiolaeth ac ymarfer, a deall sut mae’r gwaith yn gwella tegwch i ddisgyblion.
     

Pwy rydym eisiau eu cefnogi

  • Sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau addysg ffurfiol (gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd a gyllidir gan y wladwriaeth, ysgolion arbenigol AAAA, colegau Addysg Bellach, lleoliadau darpariaeth amgen megis Unedau Cyfeirio Disgyblion, a rhai mathau o leoliadau Blynyddoedd Cynnar a gyllidir gan y wladwriaeth) 
  • Gall sefydliadau celfyddydol fod yn elusennau, yn sefydliadau cymunedol, yn fentrau cymdeithasol ac yn gwmnïau dielw sy’n weithgar yn sector y celfyddydau a diwylliant
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan ormes, yn cynnwys hiliaeth, rhagfarn ar sail anabledd, dosbarthiaeth, rhywiaeth, senoffobia, homoffobia, a/​neu drawsffobia.
  • Sefydliadau sy’n datblygu rhaglenni gwaith sefydledig a/neu’n profi dulliau newydd

Rydym yn annog sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yn gynnes i archebu galwad ymholi i ddarganfod mwy am y Gronfa Dysgu Seiliedig ar y Celfyddydau.

Sut rydych chi’n gweithio

Rydym am gefnogi sefydliadau sy’n:

  • defnyddio cynnwys a dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau i gefnogi dysgu plant. Gall y rhain gynnwys y ffurfiau canlynol ar gelfyddyd: crefftau; ysgrifennu creadigol, gan gynnwys barddoniaeth a’r gair llafar; dawns; dylunio; ffilm; cerddoriaeth; opera; ffotograffiaeth; celfyddydau a chyfryngau digidol; theatr a drama; y celfyddydau gweledol; ac arferion traws-gelfyddydol;
  • meddu ar arfer o ansawdd uchel o ran arbenigedd ac adnoddau;
  • cyfrannu at ddatblygiad arfer athrawon yn y lleoliad addysgol;
  • ymateb i anghenion penodol disgyblion a/​neu leoliad addysg
  • cyd-adeiladu gwaith gyda’u partneriaid lleoliadau addysg;
  • ag ymrwymiad i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer eu gwaith trwy adfyfyrio, dysgu sefydliadol, gwelliant parhaus a gwerthuso;
  • sicrhau bod eu gwaith a’u gweithlu yn gynrychioliadol, yn barchus, ac yn berthnasol i brofiad bywyd y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw;
  • wedi ymrwymo i wrth-hiliaeth, yr ydym yn ei ddiffinio fel y gwaith gweithredol i nodi a gwrthwynebu hiliaeth, sy’n cynnwys newid systemau, strwythurau, polisïau ac arferion, yn ogystal ag agweddau i greu cymdeithas decach. Bydd sefydliadau’n canoli gwrth-hiliaeth wrth gynllunio a chyflawni gwaith ac yn sicrhau bod y prosesau a’r dulliau gweithredu’n cael eu hystyried drwy lens gwrth-hiliaeth; a
  • chydnabod bod annhegwch yn digwydd mewn ffyrdd sy’n cysylltu ac yn croestorri ar draws hil, rhyw, dosbarth, anabledd a nodweddion eraill, a fydd hefyd yn gysylltiedig â chyd-destun lleol a phersonol.

Yr hyn yr ydych yn gweithio arno

Rydym eisiau cefnogi gwaith sydd:

Yr hyn y byddwn yn ei gyllido

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ar gyfer:

  • cyllid craidd ee ar gyfer cyflogau a chostau sefydliadol;
  • costau cyflwyno gwaith megis ffioedd ymarferwyr artistig, athrawon cyflenwi, offer a deunyddiau;
  • hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr llawrydd a staff; neu
  • costau casglu a rhannu tystiolaeth yn ymwneud â’r gwaith hwn.

Yr hyn na fyddwn yn ei gyllido

Yn ychwanegol at ein heithriadau cyffredinol, ni allwn gyllido:

  • ceisiadau gan ysgolion a lleoliadau addysg ffurfiol eraill (fodd bynnag gall ysgolion cynradd wneud cais yn uniongyrchol ar gyfer y Gronfa Datblygu Athrawon);
  • ceisiadau gan brifysgolion. (Rydym yn cydnabod bod rhai sefydliadau celfyddydol a diwylliannol o dan ymbarél sefydliadol prifysgol ac os felly maent yn gymwys i wneud cais. Gall prifysgolion hefyd fod yn bartner yn y prosiect – er enghraifft yn ymwneud â gwaith dysgu a gwerthuso);
  • gweithio gyda lleoliadau addysg ffurfiol nad ydynt yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth (er ein bod yn deall bod gan rai lleoliadau AAAA a lleoliadau arbenigol darpariaeth amgen drefniadau cyllido gwahanol, ac rydym yn annog sgwrs am hyn drwy ein proses galwad ymholi);
  • sefydliadau a gofrestrwyd yn ddiweddar nad ydynt eto wedi cynhyrchu set o gyfrifon;
  • gwaith sydd neu y dylai fod yn hawl statudol, ac efallai yr hoffech drafod hyn yn fanylach mewn galwad ymholi;
  • gwaith sy’n therapiwtig yn ei ymarfer a’r canlyniadau a fwriedir; neu
  • gwaith sy’n canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd disgyblion, trwy ddulliau nad ydynt yn seiliedig ar y celfyddydau.

Sylwch mai anaml y byddwn yn ystyried ceisiadau ariannol sy’n cynrychioli mwy na 50% o drosiant blynyddol ymgeisydd.

Who we have funded

Proses ymgeisio

Mae’r gronfa Dysgu Seiliedig ar y Celfyddydau yn gweithredu ar sail dreigl. Mae hyn yn golygu y gall sefydliadau wneud cais ar unrhyw adeg gan nad oes dyddiadau cau. 

Dylai pob ymgeisydd ddisgwyl clywed gennym o fewn pedwar mis. Gall ceisiadau llwyddiannus gymryd tua chwe mis o ddyddiad y cais i dderbyn grant.

1
2
3
4

Help gyda cheisiadau

Bwrsariaeth cymorth hygyrchedd

Os yw’r broses ymgeisio hon yn anhygyrch i chi ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Gallwn ddarparu cymorth hygyrchedd cyn ymgeisio a bwrsariaeth o hyd at £750 i’ch helpu i wneud cais.

Rydym yn defnyddio ffurflen gais ar-lein.

Gellir lawrlwytho ffurflenni enghreifftiol ar gyfer ein galwad ymholi a dau gam y broses ymgeisio fel dogfennau Word print bras i chi eu hadolygu ymlaen llaw.

Enquiry call

Stage 1

Stage 2

DEI monitoring form

A young person in a bright green shirt is in conversation, holding foam as part of an interactive exercise
BLINK Dance Theatre. Photo credit: Jon Archdeacon 

Dechreuwch eich cais 

Mewngofnodwch neu cofrestrwch ar gyfer ein ffurflen gais ar-lein i gychwyn eich cais. Os oes gennych gwestiynau heb eu hateb ar ein gwefan, cysylltwch â ni.