English Cymraeg

Cronfa Ieuenctid

Swm: Up to £150,000
Dyddiad cau: Cylch ymgeisio treigl 
Hyd: 3 mlynedd 
A group of a dozen or so young people are in a room, all cheering. Some have their arms stretched out above their heads while others are clapping
Credyd llun: Advocacy Academy

Rydym am gyllido sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc (14–25) i ysgogi newid fel y gall cenedlaethau o bobl ifanc yn y dyfodol ffynnu

Nod y gronfa

Credwn y gall gwasanaethau, systemau, strwythurau, prosesau ac arferion gefnogi pobl ifanc i ffynnu. Rydym am i bobl ifanc leisio’u barn, a chael cyfrwng ac ymreolaeth i ysgogi newidiadau a gwelliannau sy’n trawsnewid eu cyfnod pontio i fyd oedolion.

Mae’r gronfa hon yn cyflawni hyn drwy:

  • Canolbwyntio ar bobl ifanc (14–25) sy’n profi annhegwch systemig. I’r bobl ifanc hyn, mae cyfnodau pontio yn anoddach oherwydd y ffordd y mae cymdeithas, systemau a strwythurau’n gweithredu. Mae hyn yn aml yn gwaethygu’r annhegwch y maent yn ei brofi.
  • Ysgogi newid mewn systemau, prosesau, strwythurau ac arferion i greu amgylcheddau a phrofiadau mwy teg, cynhwysol, seiliedig ar asedau i bobl ifanc.
  • Mynd i’r afael ag achosion sylfaenol annhegwch ac anghyfiawnder sy’n creu rhwystrau a heriau i bobl ifanc wrth iddynt bontio i fyd oedolion.
  • Canoli llais, mewnwelediad a phŵer pobl ifanc. Gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gwthio i’r cyrion neu eu hallgau, eu profiadau’n gudd neu’n llai adnabyddus a’u lleisiau’n aml yn cael eu dileu neu eu hanwybyddu.

Pwy rydym eisiau eu cefnogi

Mae ein cronfa yn canolbwyntio ar sut mae sefydliadau’n gweithio, a beth maent yn ceisio ei gyflawni.

Mae gennym ddiddordeb mewn cyllido:

  • sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc (14–25);
  • gwaith wedi’i dargedu gyda ac ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu cyfnodau pontio yn eu bywydau a all fod yn heriol neu’n creu rhwystrau, er enghraifft i mewn neu allan o addysg, lleoliadau gofal, tai neu’r ystâd ddiogel†; a
  • gwaith sy’n cydnabod hunaniaethau lluosog sy’n gorgyffwrdd pobl ifanc (er enghraifft hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth, ffydd, statws mudo, gallu).

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan sefydliadau sy’n cael eu harwain gan bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan hiliaeth, rhagfarn ar sail anabledd, dosbarthiaeth, rhywiaeth, senoffobia, homoffobia, a/​neu drawsffobia.

Gallai’r ystâd ddiogel gynnwys carchardai, llety mechnïaeth, llety cadw ieuenctid a mangreoedd cymeradwy.

Sut rydych chi’n gweithio

Rydym yn cefnogi sefydliadau sy’n:

  • gweithio y tu hwnt i gyflawni uniongyrchol i ysgogi newid strategol a systemig. Mae gennym ddiddordeb mewn sut mae eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl ifanc wrth iddynt bontio i fyd oedolion;
  • ceisio nodi, deall a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr anghyfiawnder a’r annhegwch y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o’r gwaith;
  • sicrhau bod eu gwaith a’u gweithlu yn gynrychioliadol, yn barchus, ac yn berthnasol i brofiad bywyd y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer; ac
  • eu bod wedi ymrwymo i wrth-hiliaeth, yr ydym yn ei ddiffinio fel y gwaith gweithredol i nodi a gwrthwynebu hiliaeth, sy’n cynnwys newid systemau, strwythurau, polisïau ac arferion, yn ogystal ag agweddau i greu cymdeithas decach. Bydd sefydliadau’n canoli gwrth-hiliaeth wrth gynllunio a chyflawni gwaith ac yn sicrhau bod y prosesau a’r dulliau gweithredu’n cael eu hystyried drwy lens gwrth-hiliaeth. 

Yr hyn yr ydych yn gweithio arno

Rydym yn cyllido sefydliadau i ysgogi newid fel y gall cenedlaethau o bobl ifanc yn y dyfodol ffynnu.

I ni, mae hyn yn golygu gwaith sy’n gwneud y canlynol:

Gweithio ar sail asedau

Rydym yn cyllido sefydliadau sy’n gweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar asedau. Mae hon yn nodwedd hanfodol o’n cronfa ac rydym yn edrych i gyllido sefydliadau sy’n dangos hyn yn eu gwaith. I ni, mae hyn yn golygu:

  • Mae pobl ifanc yn cael eu gweld am eu potensial nid eu profiadau presennol na’u profiadau yn y gorffennol
  • Cydnabod ac adeiladu ar gryfderau pobl ifanc
  • Canoli grym, llais a chyfrwng pobl ifanc fel y gallant lunio penderfyniadau sy’n effeithio arnynt

Mwy am weithio ar sail asedau

Darganfyddwch fwy am yr hyn a olygwn pan fyddwn yn siarad am gweithio ar sail asedau’ a pham rydym am gyllido gwaith sy’n dechrau drwy gydnabod cryfderau pobl ifanc ac adeiladu arnynt.

Yr hyn y byddwn yn ei gyllido


Cynlluniwyd y Gronfa Ieuenctid i fod yn fuddsoddiad strategol yn eich sefydliad, felly rydym dim ond yn cyllido:

  • am y tair blynedd lawn ac ar y swm sy’n briodol i’ch cynlluniau i ysgogi newid;
  • sefydliadau lle mae o leiaf 50% o ffocws y sefydliad ar waith gyda phobl ifanc 14–25 oed ac ar eu cyfer; a
  • sefydliadau dielw a all fod yn elusennau, sefydliadau cymunedol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau dielw â throsiant o dros £30,000 ac o dan £3.5 miliwn. Rhaid i sefydliadau anelusennol ddatgan yn glir sut mae’r cyllid at ddibenion elusennol a chael clo asedau yn ei le.

Ar gyfer gwaith a gyflwynir drwy bartneriaethau, rhaid cael partner arweiniol a all dderbyn cyllid a rhaid i’r bartneriaeth fod yn weithredol eisoes.

Rydym yn darparu cyllid:

  • hyd at £50,000 y flwyddyn am dair blynedd (uchafswm grant o £150,000). Mae’n well gennym gyllido sefydliadau am uchafswm y swm a’r cyfnod. Nid ydym yn rhoi grantiau o lai na £30,000 y flwyddyn;
  • i dalu costau gweithredu craidd (cyflogau, trefniadaeth a chostau cyflenwi); ac
  • i gynyddu effaith yr hyn rydych chi’n ei wneud eisoes. Nid ydym yn bwriadu cyllido dulliau gweithredu heb eu profi, prosiectau neu ddarnau cyfyngedig o waith.
     

Yr hyn na fyddwn yn ei gyllido

Yr hyn na fyddwn yn ei gyllido 

Yn ogystal ag eithriadau cyffredinol Sefydliad Paul Hamlyn, ni fyddwn yn cyllido:

  • sefydliadau sydd newydd gofrestru nad ydynt eto wedi cynhyrchu cyfrifon a archwiliwyd/​ymchwiliwyd yn annibynnol;
  • gwaith a ystyrir yn gyfrifoldeb statudol;
  • gweithgaredd neu waith sy’n seiliedig ar brosiect heb unrhyw gwmpas i gael effaith y tu hwnt i fuddiolwyr uniongyrchol y sefydliad;
  • darparu gwasanaethau nad ydynt yn canolbwyntio’n benodol ar newid ehangach;
  • ymchwil nad yw’n dangos cysylltiad uniongyrchol rhwng canfyddiadau a gweithredu tuag at newid;
  • gwaith sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc sy’n derbyn gofal hosbis neu ofal diwedd oes;
  • gwaith a ddarperir gan YMCAs oni bai ei fod yn ceisio sicrhau newidiadau ehangach sylweddol mewn darpariaeth tai a hawliau pobl ifanc; neu
  • gwaith sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar lwybrau i gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc neu ar lwybrau i addysg bellach neu uwch, a ddisgrifir yn aml fel gwella symudedd cymdeithasol pobl ifanc.

Rydym yn cydnabod bod y gweithgareddau hyn yn bwysig ond, o ystyried ein cronfeydd cyfyngedig, nid yw’r gweithgareddau hyn yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Who we have funded

Proses ymgeisio

Mae’r Gronfa Ieuenctid yn gweithredu ar sail dreigl. Mae hyn yn golygu y gall sefydliadau wneud cais ar unrhyw adeg gan nad oes dyddiadau cau.
Mae gwneud cais i’r Gronfa Ieuenctid yn broses dau gam.

Sut i wneud cais

1
2

Cael penderfyniad

1
2
3
  • Rydym yn rhoi 20 grant y flwyddyn drwy’r Gronfa Ieuenctid ac ar gyfartaledd, mae 10–12% o’r holl ymgeiswyr yn derbyn cyllid.

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn edrych ar ein tudalen ar ddulliau sy’n seiliedig ar asedau i ddeall y math o waith yr ydym am ei gefnogi.

Help gyda cheisiadau

Bwrsariaeth cymorth hygyrchedd

Os yw’r broses ymgeisio hon yn anhygyrch i chi ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni. Gallwn ddarparu cymorth hygyrchedd cyn ymgeisio a bwrsariaeth o hyd at £750 i’ch helpu i wneud cais.

Rydym yn defnyddio ffurflen gais ar-lein.


Gellir lawrlwytho sampl o ffurflen gais fel dogfen Word, sydd hefyd ar gael mewn print bras, i chi ei hadolygu ymlaen llaw.
 

Cyn i chi ddechrau eich cais, rydym hefyd yn awgrymu eich bod yn edrych ar:

Three young people are sitting outside, laughing with each other
Credyd llun: Youth Access 

Dechreuwch eich cais 

Mewngofnodwch neu cofrestrwch ar gyfer ein ffurflen gais ar-lein i ddechrau eich cais. Os oes gennych gwestiynau heb eu hateb ar ein gwefan, cysylltwch â ni.