Rydym yn rhagweld byd lle:
- mae parch, gofal a chyd-ddibyniaeth yn sail i’n perthynas â’n gilydd;
- mae gwahaniaethau barn a safbwyntiau yn rhoi cyfle i fyfyrio a thyfu;
- mae dysgu ar y cyd yn ein galluogi i lunio ein gweithredoedd yn y dyfodol ac i’n hatal rhag dyfnhau a chyfnerthu niwed.
Ein cyllido yw ein cyfraniad at helpu i sicrhau’r dyfodol hwn. Credwn mai dim ond trwy ymdrech gyfunol a chydweithredol rhwng unigolion, sefydliadau, mudiadau, cyllidwyr a thu hwnt y mae hyn yn bosibl.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ein blaenoriaethau a’n hymrwymiadau i gyd yn cael eu llywio gan fewnbwn gan bobl sy’n gweithio tuag at gyfiawnder mudol bob dydd, a’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o systemau mewnfudo blaenorol a chyfredol y DU.
Wrth i naratifau, cyfreithiau a pholisïau niweidiol yn y DU ac yn rhyngwladol ehangu, gan gosbi cymunedau mudol, a chymell ofn a rhaniad, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o strategaethau i:
- atal hawliau rhag symud yn ôl a gweithredu amddiffyniadau a hawliau cryfach i’r rhai sy’n symud‘yma ac yn awr’;
- adeiladu gwybodaeth, undod, a grym yn ein cymunedau;
- cefnogi’r rhai sy’n dychmygu, yn ymarfer, ac yn efelychu’r dyfodol yr ydym am ei weld i ni i gyd.
Gallwch ddarllen mwy am ein proses ymgynghori a’r hyn sy’n sail i’n gweledigaeth yn y blog hwn.