Cronfa’r Celfyddydau
Mae ein Cronfa Gelfyddydau ar gau i geisiadau ar hyn o bryd.


Rydym am gefnogi sefydliadau sy’n gweithio ar y croestoriad rhwng celf a newid cymdeithasol.
Nod y gronfa
Rydym yn gweld diwylliant fel calon cymdeithas gyfiawn, lle mae gan bob person a chymuned yr hawl i fynegi eu hunain trwy gelfyddyd a diwylliant. Credwn y gall celfyddyd ac artistiaid ein helpu i weld y byd yn wahanol, gan ddod â straeon a naratifau nas clywyd i’r amlwg ac agor posibiliadau dychmygus newydd.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Er mwyn gwireddu’r potensial hwn, credwn fod angen newid strwythurol a diwylliannol hirdymor ar y sector. Ein huchelgais yw cefnogi portffolio o sefydliadau sy’n cynrychioli’r newid hwn i ddatblygu, dysgu oddi wrth ei gilydd ac archwilio (ymhellach) potensial celfyddyd ar gyfer trawsnewid personol, diwylliannol a chymdeithasol.
-
Meithrin gallu ac adnoddau ar gyfer diwylliant o fewn cymunedau sydd wedi’u tangyllido yn hanesyddol
-
Archwilio’r rôl y gall artistiaid ei chwarae wrth fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol.
-
Creu’r seilwaith ar gyfer sector diwylliannol tecach.
Rydym am weithio gyda sefydliadau y mae’r dyheadau hyn yn ganolog i’w gweledigaeth a’u cenhadaeth. Mae Cronfa’r Celfyddydau yn cefnogi datblygiad a thrawsnewidiad hirdymor y sefydliadau hyn fel llwybr tuag at gyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd.
Pwy rydym eisiau eu cefnogi
Rydym eisiau cefnogi sefydliadau diwylliannol sy’n:
- defnyddio eu harfer creadigol i’n helpu i ymgysylltu â chymhlethdod y byd o’n cwmpas;
- canoli profiad byw y rhai yr effeithir arnynt gan anghyfiawnder yn eu rhaglenni, eu harweinyddiaeth a’u llywodraethu;
- archwilio sut y gellir ymgorffori gwerthoedd gofal, tegwch a chyfiawnder yn eu diwylliant sefydliadol eu hunain;
- meddu ar ymdeimlad clir o’u rôl eu hunain wrth gefnogi newid fel rhan o ecosystem ehangach;
- yn hael gyda’u dysgu ac yn gweithio gyda sefydliadau eraill tuag at nodau cyffredin; a
- defnyddio eu harfer creadigol i herio hierarchaeth ddiwylliannol draddodiadol genre a ffurf gelfyddydol.
Mae ein diffiniad o’r ‘celfyddydau’ yn cynnwys crefftau, ysgrifennu creadigol (gan gynnwys barddoniaeth), dawns, dylunio, ffilm, cerddoriaeth, opera, ffotograffiaeth, y celfyddydau a’r cyfryngau digido, theatr a drama, ycelfyddydau gweledol ac arferion traws-gelfyddydol.
Yr hyn y byddwn yn ei gyllido
Rydym yn cynnig cymorth i sefydliadau â chostau craidd fel y gallwch barhau â’r gwaith yr ydych eisoes yn ei wneud ac ar gyfer rhaglenni sy’n ganolog i genhadaeth eich sefydliad.
I fod yn gymwys, dylai fod gan eich sefydliad drosiant o ddim llai na £60,000 y flwyddyn, yn seiliedig ar eich cyfrifon archwiliedig diwethaf neu eich trosiant blynyddol cyfartalog dros y 3 blynedd diwethaf – pa un bynnag sydd uchaf. Byddwn yn cyllido hyd at 50% o drosiant blynyddol sefydliad dros dair blynedd, yn seiliedig ar eu cyfrifon archwiliedig diwethaf. Rydym yn cyllido sefydliadau sy’n gweithio ledled y DU.
Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau i ddod yn fwy cynaliadwy ac i ddyfnhau effaith y gwaith. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer swyddi penodol, datblygu sgiliau, tanategu’r strategaeth neu fodel busnes ac ar gyfer cyflawni prosiect sy’n ganolog i genhadaeth a gweledigaeth eich sefydliad.
Wrth asesu ceisiadau, byddwn yn ystyried sut mae anghydraddoldebau systemig wedi effeithio ar sefydliadau, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) annhegwch hiliol, anfantais economaidd-gymdeithasol, cael anableddau, byw mewn cymunedau gwledig anghysbell neu brofiad o’r system fewnfudo. Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n weithredol wrth-hiliol a chroestoriadol eu dull.
Yr hyn na fyddwn yn ei gyllido
Yn ychwanegol at ein heithriadau cyffredinol, ni allwn gyllido:
- Sefydliadau sydd â throsiant o lai na £60,000 y flwyddyn, yn seiliedig ar eich cyfrifon archwiliedig diwethaf neu eich trosiant blynyddol cyfartalog dros y 3 blynedd diwethaf – pa un bynnag sydd uchaf
- Gwaith sy’n canolbwyntio ar lwybrau cyflogaeth lefel mynediad
- Gwaith sy’n anelu’n bennaf at gyflawni canlyniadau iechyd, llesiant, addysgol neu benodol eraill wedi’u targedu
- Rhaglenni ymchwil academaidd
- Sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf mewn lleoliadau addysg ffurfiol
- Sefydliadau sydd newydd gofrestru sydd eto i gynhyrchu cyfrifon archwiliedig neu ymchwiliedig annibynnol
- Unigolion
- Prosiectau cyfalaf a phrynu offer

Eisiau gwybod mwy am Gronfa’r Celfyddydau?
Ein Tîm Celfyddydau yn adfyfyrio ar y rownd gyntaf o geisiadau i’n Cronfa’r Celfyddydau a pham y cyrhaeddodd ceisiadau ein rhestr fer.
In this section
Proses ymgeisio
Mae Cronfa’r Celfyddydau ar gau ar hyn o bryd – bydd manylion y rownd nesaf yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Mae gwneud cais i Gronfa’r Celfyddydau yn broses dau gam.
Cael penderfyniad
Help gyda cheisiadau
Bwrsariaeth cymorth hygyrchedd
Os yw’r broses ymgeisio hon yn anhygyrch i chi ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni. Gallwn ddarparu cymorth hygyrchedd cyn ymgeisio a bwrsariaeth o hyd at £750 i’ch helpu i wneud cais.

Rydym yn defnyddio ffurflen gais ar-lein.
Gellir lawrlwytho sampl o ffurflen gais fel dogfen Word, sydd hefyd ar gael mewn print bras, i chi ei hadolygu ymlaen llaw.
Gweminarau
Byddwn yn cynnal gweminarau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn sicrhau bod recordiadau o’r gweminarau ar gael i’w hail-wylio, ynghyd â Chwestiynau Cyffredin. Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i fynychu a bod yn rhan o’r sgwrs.
Dilynwch y dolenni isod i gofrestru a chyflwynwch eich cwestiynau ymlaen llaw.
Gallwch hefyd wylio’r gweminar isod o fis Ebrill 2024.