Bwrsariaeth cymorth hygyrchedd

Gwella hygyrchedd i’n cyllid
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein proses ymgeisio am gyllid mor hygyrch i gynifer o bobl â phosibl. Rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech y mae’n ei gymryd i gyflwyno cais am gyllid, ac yn gosod gwerth ar hynny, ac rydym am wneud yn siŵr nad oes rhwystrau diangen i ymgeisio.
Mae hyn yn golygu ein bod yn blaenoriaethu dod o hyd i ffyrdd o wneud ein proses ymgeisio yn fwy hygyrch. Er enghraifft, trwy ddarparu ffurflenni cais enghreifftiol mewn dogfennau Word ac mewn print bras, fel y gellir adolygu cwestiynau a gweithio arnynt y tu allan i’r broses ymgeisio ar-lein.
Ond rydym yn gwybod y gallai fod rhwystrau o hyd i ymgeisio. Trwy gynnig bwrsariaeth, rydym yn gobeithio y bydd mwy o ymgeiswyr B/byddar, anabl a niwrowahanol yn cael eu cefnogi a’u hannog i wneud cais am gyllid.
Get an Easy Read version of this page
Trosolwg o’r fwrsariaeth
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i un o’n cronfeydd, gallwch wneud cais drwy’n porth cyllido ar-lein. Os yw’r llwybr hwn yn anhygyrch i chi oherwydd anabledd, nam neu niwrowahaniaeth, gallwn ddarparu bwrsariaeth i dalu costau cymorth y gallai fod eu hangen arnoch i wneud cais.
Mae’r fwrsariaeth yn cael ei gweinyddu’n annibynnol ar ein cyllid, felly ni fydd eich defnydd o fwrsariaeth yn effeithio ar ba un a yw eich cais am gyllid yn llwyddiannus ai peidio.
Swm y fwrsariaeth
Yn gyffredinol rydym yn cynnig bwrsariaethau o hyd at £750. Caiff hyn ei lywio gan gostau hanesyddol ceisiadau a dderbyniwyd gennym, ond rydym yn ystyried pob cais fesul achos. Os yw eich cost cymorth yn uwch na hyn, rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu o hyd.
Gallwch hefyd wneud cais ar bob cam o’r broses ymgeisio, nid dim ond pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais i ddechrau. Er enghraifft, os oes angen dehonglydd BSL arnoch i gael galwad ymholi a hefyd i gwblhau’r cais cam cyntaf, gallwch ofyn am fwrsariaeth ar bob cam.
Pa gymorth hygyrchedd rydym yn ei gwmpasu
Gall y cymorth hwn amrywio a byddwn yn cael ein harwain gan ba gymorth y dywedwch wrthym sydd ei angen. I roi rhai enghreifftiau o’r mathau o gymorth y mae’r fwrsariaeth wedi’u darparu yn y gorffennol, rydym wedi rhestru rhai o’r mathau o gymorth y gallai ymgeiswyr ei gael.
Gall y cymorth bwrsariaeth hwn fod ar gyfer llenwi’r ffurflen gais ar-lein neu i gael sgyrsiau dilynol gyda staff Sefydliad Paul Hamlyn.
- Cymorth gweinyddol
- Dehonglydd BSL
- Ysgrifennydd nodiadau
- Gweithiwr cymorth
- Trawsgrifiad
- Cyfieithu ee o BSL i Saesneg ysgrifenedig
Sut i wneud cais am y fwrsariaeth
Mae’r fwrsariaeth wedi’i chynllunio i dalu cost unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch i gwblhau cais yn uniongyrchol. Ni fydd angen i chi dalu am y cymorth ar unrhyw adeg, a bydd pwy bynnag sy’n darparu’r cymorth hygyrchedd yn anfon anfoneb atom yn uniongyrchol.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hygyrchedd?
Yn ogystal â darparu’r fwrsariaeth, rydym yn awyddus i wneud newidiadau a gwelliannau ehangach i hygyrchedd ein cyllid a’n gwaith. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â mi.
Plain English Campaign’s Crystal Mark applies to this page only.
